agw. Jeremeia 27:16; 28:3 ac Esra 1:7-10

Isaiah 52

Jerwsalem yn cael dathlu

1Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion!
Gwisga dy ddillad hardd,
Jerwsalem, y ddinas sanctaidd!
Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedu
byth yn dod i mewn i ti eto.
2Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat,
eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem!
Tynna'r gefynnau oddi am dy wddf
Seion, y gaethferch hardd!

3Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Cawsoch eich gwerthu am ddim,
a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.”

4Dyma mae'r Meistr, yr Arglwydd, yn ei ddweud:

“I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft;
ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw.
5Felly, beth sy'n digwydd yma?”

—meddai'r Arglwydd
“Mae fy mhobl wedi eu cipio i ffwrdd am ddim rheswm,
ac mae'r rhai sy'n eu rheoli yn gwawdio.”

—meddai'r Arglwydd
“Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy'r amser.
6Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod,
ac yn gwybod mai fi ydy'r un sy'n dweud,
‘Dyma fi!’”
7Mae mor wych gweld negesydd
yn dod dros y mynyddoedd
yn cyhoeddi fod heddwch.
Mae ganddo newyddion da –
mae e'n cyhoeddi fod achubiaeth
ac yn dweud wrth Seion,
“Dy Dduw di sy'n teyrnasu!”
8Clyw! Mae'r rhai sy'n gwylio dy furiau yn galw;
maen nhw'n gweiddi'n llawen gyda'i gilydd!
Maen nhw'n gweld, o flaen eu llygaid,
yr Arglwydd yn dod yn ôl i Seion.
9Gwaeddwch chithau hefyd,
adfeilion Jerwsalem!
Mae'r Arglwydd yn cysuro ei bobl
ac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd.
10Mae'r Arglwydd wedi dangos ei nerth
i'r cenhedloedd i gyd,
ac mae pobl o ben draw'r byd yn gweld
ein Duw ni yn achub.
11Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi!
Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan!
Chi sy'n cario llestri'r Arglwydd a
Cadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno.
12Ond does dim rhaid i chi adael ar frys
na dianc fel ffoaduriaid,
achos mae'r Arglwydd yn mynd o'ch blaen chi,
ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o'r tu cefn.

Y gwas sy'n dioddef

13“Edrychwch! Bydd fy ngwas yn llwyddo;
bydd yn cael ei ganmol a'i godi yn uchel iawn.
14Fel roedd llawer wedi dychryn o'i weld
yn edrych mor ofnadwy – prin yn ddynol
(doedd e ddim yn edrych fel dyn),
15bydd e'n puro
52:15 puro Hebraeg, “taenellu”
llawer o genhedloedd.
Bydd brenhinoedd yn fud o'i flaen –
byddan nhw'n gweld rhywbeth oedd heb ei egluro,
ac yn deall rhywbeth oedden nhw heb glywed amdano.
Copyright information for CYM